Caplaniaeth
Cymraeg i ofalu am y Cymry sy’n byw yma ac sy’n dod i’r
Glannau o Gymru am gyfnod i ysbytai, colegau a carchardai
Welsh Chaplaincy to
care for the Welsh who live on Merseyside and who come for short
stays in hospitals, colleges and prisons in the area.
(6) (7)
CAPLANIAETH GLANNAU’R
MERSI
GWAITH Y CAPLAN
Mae’r caplan yno i
ofalu am y rhai sy’n dod o Gymru i aros am sbel ar y Glannau
mewn ysbytai, colegau neu garchardai. Mae yno hefyd i’r Cymry sy’n
byw yn Lerpwl a’r cyffiniau ers tro, yn arbennig yr henoed sy
methu mwyach mynd allan, mae rhai yn byw mewn cartrefi henoed,
eraill yn gaeth i’w cartrefi eu hunain ond yn mwynhau cael
cysylltiad hefo rhywun Cymraeg.
HANES BYR - DDOE A
HEDDIW
Mae Caplaniaeth wedi
bod yn Lerpwl a Bootle a’r cyffiniau trwy waith cydwybodol
gweinidogion i lawr y blynyddoedd, a hefyd gwyr a gwragedd a
apwyntiwyd yn arbennig fel Hugh Roberts, Bootle, John Evans,
Beaconsfield Road a’r Chwaer Kate Evans, Edge Lane.
Ond, ers 1984,
oherwydd lleihad yn nifer y gweinidogion, cafwyd apwyntiad swyddog
arbennig i wneud gwaith caplan ar Lannau Mersi, i ail-gydio yn
hanes gwych y gorffennol.
Heddiw, yn dilyn John
Sam Jones, Dafydd Rees a Rachel Gooding - bob un wedi gwneud dydd
da o waith yn y gaplaniaeth - mae Eleri Edwards wedi bod yn gaplan
o Medi 1996 hyd mis Mai 2004. Yna yn Mis Mai 2005 dechreuodd
ei olynydd ar y gwaith sef y Parchedig Nan Powell-Davies, Wyddgrug..
BETH YW’R GWAITH ?
Mae’r caplan heddiw
fel ddoe, yn ymweld â phobl yn yr ysbyty a’r carchar, yn
gwrando arnynt ac yn sgwrsio. Mae’n barod i helpu mewn unrhyw
ffordd yn ôl yr angen ac yn arbennig i gadw sgwrs yn gyfrinachol
a gweddïo dros y claf a’r caethiwus. Mae hi yn barod i adrodd
emyn neu ddarllen y Beibl a gweddïo, a rhoi’r Sacrament o Swper
yr Arglwydd neu Fedydd os dyna yw dymuniad yr unigolyn.
Mae’r caplan hefyd
ar ddiwedd y ffôn ac yn awyddus i ymateb i unrhyw un o Gymru neu
sy’n trigo yn Lerpwl a’r cyffiniau ac sy’n teimlo’r awydd
i siarad Cymraeg neu i wybod beth sy’n mynd ymlaen ar y Glannau
ymysg y Cymry mewn Capel a Chymdeithas. Hynny yn arbennig i
fyfyrwyr ar ddechreu eu cyrsiau neu o gwmpas yr arholiadau; yn
ogystal ag i nyrsys a doctoriaid neu swyddogion eraill sy newydd
cyrraedd yn y ddinas ac yn awyddus i fwrw gwreiddiau.
CYSYLLTU
Mae nifer o deuluoedd
yn cysylltu i ddweud bod rhywun yn dwad i Lerpwl ac yn rhoi’r
manylion perthnasol, sef:
- enw llawn
- cyfeiriad yr ysbyty, y ward
- enw a rhif y carcharor a
chyfeiriad y carchar gan fod mwy
nag un yn y talgyrch
Os bosib, mae’n dda i ofyn i’r
claf neu bwy bynnag sy’n dod atom os hoffan nhw weld rhywun
Cymraeg sy’n dod yn enw holl eglwysi a enwadau Cymru. Mae
seciwriti yn llym iawn ym mhob man y dyddiau yma ac felly nid ydyw’n
bosib i’r caplan fynd o gwmpas heb wybodaeth gywir o’r person
a’r lle i’w ffeindio a chofier felly y cyfarwyddiadau.
PAM CAPLAN?
Cofier yr alwad o
Efengyl Mathew 25: 36,37:
Meddai Iesu Grist: "...bûm
yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm ...yn glaf ac
ymwelsoch â mi; bûm yng ngharchar a daethoch ataf."
Dyna fraint y disgybl o hyd
MANYLION Y
GAPLANIAETH
Parchg. Nan Wyn Powell-Davies, B.TH.
ffôn y caplan: 01352 753668
ebost :
caereini@tesco.net
Anfonwch neges trwy’r we ac fe gaiff groeso
Y
caplan yn sgwrsio hefo swyddog
Yr
adnoddau!
Caplan
Parchedig Eleri Edwards
Paratowyd
y gwaith gan y Parchedigion Eleri Edwards a Dr D. Ben Rees.
This has been
prepared by Reverend Eleri Edwards and Professor D. Ben
Rees.
Chwefror
2002
(6) - e-bost:
c.e.edwards@talk21.com
(7) - Ffôn:
01512807808 - ysbytai Broadgreen, Royal Liverpool, Alder Hey, ac
eraill
|